Proverbs 12

1Mae rhywun sy'n barod i gael ei gywiro yn caru gwybodaeth;
ond mae'r un sy'n gwrthod derbyn cerydd yn ddwl!
2Mae pobl dda yn profi ffafr yr Arglwydd,
ond mae'r rhai sydd â chynlluniau cyfrwys yn cael eu cosbi ganddo.
3Dydy drygioni ddim yn rhoi sylfaen gadarn i fywyd,
ond mae gwreiddiau dwfn gan y rhai sy'n byw yn iawn.
4Mae gwraig dda yn gwneud i'w gŵr deimlo fel brenin,
ond mae un sy'n codi cywilydd arno fel cancr i'r esgyrn.
5Mae bwriadau'r rhai sy'n byw yn iawn yn dda,
ond cyngor pobl ddrwg yn dwyllodrus.
6Mae geiriau pobl ddrwg yn barod i ymosod a lladd,
ond bydd beth mae pobl gyfiawn yn ei ddweud yn eu hachub nhw.
7Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel ac yn diflannu,
ond mae cartrefi pobl dda yn sefyll yn gadarn.
8Mae person deallus yn cael enw da;
ond mae'r rhai sy'n twyllo yn cael eu dirmygu.
9Mae'n well bod yn neb o bwys a gweithio i gynnal eich hun
na chymryd arnoch eich bod yn rhywun ac eto heb fwyd.
10Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid,
ond mae hyd yn oed ‛tosturi‛ pobl ddrwg yn greulon!
11Bydd yr un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,
ond does dim sens gan yr un sy'n gwastraffu amser.
12Mae pobl ddrwg yn blysio am ffrwyth eu drygioni;
ond gwreiddiau y cyfiawn sy'n rhoi cnwd.
13Mae geiriau pobl ddrwg yn eu baglu nhw,
ond mae'r un sy'n gwneud y peth iawn yn dianc rhag trafferthion.
14Mae rhywun yn derbyn canlyniadau beth mae'n ei ddweud;
ac yn cael ei dalu am beth mae'n ei wneud.
15Mae'r ffŵl byrbwyll yn meddwl ei fod e'n gwybod orau;
ond mae'r person doeth yn derbyn cyngor.
16Mae'r ffŵl yn dangos ar unwaith ei fod wedi gwylltio,
ond mae'r person call yn anwybyddu'r ffaith ei fod wedi ei sarhau.
17Mae tyst gonest yn dweud y gwir,
ond tyst celwyddog yn twyllo.
18Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu,
ond mae geiriau doeth yn iacháu.
19Mae geiriau gwir yn aros bob amser,
ond celwydd yn para ond am ennyd.
20Twyllo ydy bwriad y rhai sy'n cynllwyn i wneud drwg;
ond mae'r rhai sy'n hybu heddwch yn profi llawenydd.
21Fydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael dim niwed,
ond bydd pobl ddrwg yn cael llwythi o drafferthion.
22Mae'n gas gan yr Arglwydd gelwydd,
ond mae'r rhai sy'n dweud y gwir yn ei blesio.
23Mae person call yn cuddio beth mae'n ei wybod,
ond mae ffyliaid yn cyhoeddi eu nonsens.
24Pobl sy'n gweithio'n galed fydd yn arweinwyr;
bydd y rhai diog yn cael eu hunain yn gaethweision.
25Mae pryder yn gallu llethu rhywun,
ond mae gair caredig yn codi calon.
26Mae'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos y ffordd i'w ffrind,
ond mae person drwg yn arwain rhywun ar gyfeiliorn.
27Does gan rywun diog byth helfa i'w rostio,
ond mae gan y gweithiwr caled gyfoeth gwerthfawr.
28Mae byw yn iawn yn arwain i fywyd,
ond ffordd arall yn arwain i farwolaeth.
Copyright information for CYM